Croeso i system archebu/llogi ar-lein Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ynys Môn

Bydd modd i chi drefnu i fynd i’ch hoff ddosbarthiadau a gweithgareddau yn ein canolfannau 24 awr y dydd a hynny o’ch cartref neu’ch gweithle eich hun.

Cyn y medrwch gofrestru i ddefnyddio system archebu/llogi ar-lein Môn Actif, rhaid i chi yn y lle cyntaf, sicrhau bod eich manylion perthnasol ar ein data-bas, oherwydd mae’r gwasanaeth ar-lein yn eich adnabod o’r rhif aelodaeth a’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar eich cyfer ar ein ffeiliau. Os nad ydych yn siŵr a yw eich manylion yn gywir ai peidio, cysylltwch ag unrhyw un o Ganolfannau Hamdden Ynys Môn i’w diweddaru.

SYLWER: Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond yng Nghanolfannau Hamdden Caergybi a Phlas Arthur y medrwch wneud trefniadau ar-lein i chwarae sboncen. Dylid nodi hefyd nad oes modd gwneud trefniadau ar-lein i fynd i bob dosbarth, oherwydd nid oes rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer rhai sesiynau. Am restr lawn o’r amserlen dosbarthiadau, ewch i’n gwefan yma os gwelwch yn dda:

Am fwy o wybodaeth am eich canolfan hamdden leol, clybiau chwaraeon a datblygu cyfleoedd chwaraeon, gweler: http://www.ynysmon.gov.uk/hamdden/chwaraeon-a-chanolfannau/